Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Barnados Dinbych |
Teitl Lleoliad: | Gweithiwr siop |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 3 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | 4 wythnos |
Oriau Gwaith: | 16 awr yr wythnos (cyflogwr yn hyblyg i drafod oriau amgen) |
Cyflog: | Di-dâl |
Dyddiad Cau: | 19/05/ 2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch eich CV at: workstart@denbighshire.gov.uk I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Pauline ar 07442939087 |
Mae Barnardos yn elusen sy’n helpu plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr. Mae’r lleoliad gwaith yn eu siop elusen fawr oddi ar y Stryd Fawr yn Ninbych.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Byddai’r lleoliad yn cynnwys pob agwedd ar hyfforddiant mewn manwerthu gan gynnwys cadw siop, gwaith til, tagio, cylchdroi stoc a defnyddio stemar dillad (dewisol). Mae pecyn o hyfforddiant gorfodol a bydd cyfleoedd hyfforddi dewisol hefyd.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Rhaid bod â chymhelliant da a bod â diddordeb yn y sector manwerthu. Cadw at amser a phresenoldeb da. Gallu gweithio’n dda mewn tîm. Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer da.
Amodau Gwaith Arbennig
Amherthnasol
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol
Amherthnasol