Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Barnardos (Y Rhyl) |
Teitl Lleoliad: | Gynorthwywyr Siop |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 3 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | 12 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 16/20 YR WYTHNOS (i’w drafod) |
Cyflog: | Lleoliad heb Gyflog |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk For further details please contact Pauline on 07442939087 |
Mae gan Barnardos fwy na chwe chant o siopau elusen yng Nghymru a Lloegr. Maent yn derbyn nwyddau fel rhoddion a’u gwerthu, gan gynnwys dodrefn, dillad dynion, merched a babanod, a llyfrau. Maent yn gweithio ag amryw wahanol asiantaethau, colegau ac awdurdodau lleol. Mae 47 o bobl yn gweithio yn y siop yn y Rhyl sydd i gyd yn gweithio’n dda mewn tîm.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Dysgu am bob agwedd ar ein Helusen – mae yno becyn dysgu rhagorol – stemio, cylchdroi stoc, gwasanaeth cwsmeriaid, helpu â danfoniadau, cadw’r siop yn dwt ac yn daclus, creu arddangosfa ffenestr, prisio dillad, gofalu am y llyfrau, anrhegion, teganau a nwyddau trydanol yn ogystal â dillad ac ati. Rydym hefyd yn siopa ar eBay a gwefannau eraill.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Gonest, dibynadwy a gweithgar iawn.
Yn fodlon gweithio mewn tîm a dysgu sgiliau newydd (hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â Diogelu Data, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Teledu Cylch Cyfyng). Darperir cymorth i bobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.
Bod yn brydlon a chynnal presenoldeb da.
Bod â diddordeb mewn cefnogi’r elusen, yn fodlon rhoi 100% wrth wasanaethu cwsmeriaid a rhoi diogelwch ar flaen eich meddwl bob amser wrth weithio.
Rhaid bod â diddordeb mewn siopau a manwerthu a bod yn gryf eich cymhelliant.
Amodau Gwaith Arbennig
Rhaid cwblhau cwrs sefydlu llawn ar y diwrnod cyntaf, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch; cynhelir hwn ar-lein a byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd.
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol
Bydd Barnardos yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr â chofnodion troseddol.