Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | SHELTER PRESTATYN |
Teitl Lleoliad: | CYNORTHWYWYR MANWERTHU |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | 12 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 16 AWR |
Cyflog: | Amherthnasol |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV at: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07442939087 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith. |
Mae Shelter Cymru yn elusen gofrestredig genedlaethol sydd wedi cael lleoliad ym Mhrestatyn ers 28 o flynyddoedd. Mae’n ymgyrchu ar gyfer hawliau tenantiaid gan gynnig cyngor a gwybodaeth. Mae’r holl roddion o’r siop elusen yn helpu pobl ddigartref o gwmpas Gogledd Cymru.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rydym wedi ein lleoli ar Stryd Fawr Prestatyn.
Rydym yn chwilio am rywun â phrofiad Manwerthu os yw’n bosibl ond byddem yn hapus i hyfforddi rhywun ym mhob agwedd o’n sector manwerthu.
Byddai profiad o ddefnyddio’r til yn fuddiol.
Creu arddangosfeydd ffenestr.
Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid.
Cadw’r siop yn lân ac yn daclus.
Defnyddio peiriant stêm / trefnu rhoddion / cylchdroi stoc.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Rydym yn chwilio am rywun dibynadwy, sydd â’r gallu i weithio dan bwysau. Sgiliau cadw amser a phresenoldeb ardderchog. Llawn cymhelliant ac yn gallu darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gwirioneddol i’n cwsmeriaid ym Mhrestatyn. Byddai rhywfaint o brofiad manwerthu yn ddelfrydol ond nid yw’n hanfodol.
Amodau Gwaith Arbennig
Dim