Mynd i'r cynnwys

Cynorthwy-ydd Cefnogi – Rhuthun

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: Rowan Care
Teitl Lleoliad:Cynorthwy-ydd Cefnogi  
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:12 WYTHNOS
Oriau Gwaith:24
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:19/05/24
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gadarnhau
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Mae gweithwyr gofal yn helpu pobl ddiamddiffyn i reoli eu gweithgareddau bob dydd a byw mor annibynnol â phosibl.
Darperir hyfforddiant ac mae cyfle i chi fynd ymlaen i gwblhau cymhwyster lefel 2 a fydd yn arwain at gynnydd mewn tâl.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
 
Cynorthwyo gyda gofal personol defnyddwyr gwasanaeth
Ymgymryd â dyletswyddau cartref ysgafn a pharatoi prydau
Hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i siopau, apwyntiadau ac ati yn ôl cyfarwyddyd
Cynorthwyo gyda symud a throsglwyddo defnyddwyr gwasanaeth o fewn y cartref yn defnyddio offer priodol
Cyrraedd yn brydlon ac ymgymryd â thasgau fel y’i diffinnir yn y Cynllun Personol
Rhoi gwybod i’ch Rheolwr Atebol am unrhyw bryderon
Cadw cyfrinachedd bob amser
Gweithio gyda’ch rheolwr atebol ac aelodau eraill o staff fel rhan o dîm
Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen
Mynychu cyfarfodydd staff
Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfredol yn enwedig Iechyd a Diogelwch a Chyfleoedd Cyfartal
Defnyddio offer diogelwch priodol (menig a ffedogau untro ac ati) ar gyfer yr holl dasgau gofal
Unrhyw ddyletswydd arall sy’n cyd-fynd â graddfa’r swydd
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Dylech fod yn unigolyn gofalgar a chyfrifol gyda sgiliau cadw amser a phobl da.
Amodau Gwaith Arbennig
Mae angen trwydded yrru ar gyfer y swydd hon.
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd