Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-ddisgrifiad
Cyflogwr: | Sir Ddinbych/Work Start Scheme |
Teitl Lleoliad: | Cymhorthydd Gofal Cymdeithasol |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | yes |
Hyd y Lleoliad: | 12 wythnos |
Oriau Gwaith: | 20 awr i’w gyhoeddi |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gyhoeddi |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gyhoeddi |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: Workstart@denbighshire.gov.uk Fiona – 07468743969 |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith |
Mae’r cyfle cyffrous hwn ar gael am leoliad gyda Chyngor Sir Ddinbych yn y maes Gofal Preswyl. Mae’n gyfle i’r ymgeisydd cywir i weithio o fewn ein tîm gofal, i ddarparu gofal a chymorth i’n dinasyddion, i ddysgu sgiliau newydd ac i gael profiad o weithio mewn lleoliad Gofal Preswyl yng Nghyngor Sir Ddinbych. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth fel rhan o dîm gofal ymroddedig i sicrhau bod anghenion preswylwyr yn cael eu diwallu i’r safon uchaf posib a’u bod yn cael profiad cadarnhaol o ofal preswyl. |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau |
Arsylwi a chefnogi gofalwyr gan gynnig cymorth yn unol â chynllun gofal unigol pob preswylydd. Defnyddio dull sy’n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ wrth weithio – sy’n golygu cydnabod bod pawb yn wahanol, ac y dylid rhoi’r unigolyn wrth wraidd eu cynllun gofal a chymorth. Gweithio o dan oruchwyliaeth, ochr yn ochr â gofalwyr i annog dinasyddion i barhau i fod mor annibynnol â phosib. Arsylwi a dilyn gofalwyr yn gweithio gyda’r preswylwyr hynny nad ydynt yn gallu ymdopi â rhai o’r tasgau eu hunain (e.e. cymorth i ymolchi, cael bath, rheoli ymataliaeth) – rhaid i’r tasgau hyn gael eu gwneud mewn modd sensitif gan ddangos parch i’r preswylydd. Arsylwi gofynion preswylwyr o ran deiet, maeth ac iechyd. Cyfathrebu gyda phreswylwyr er mwyn sicrhau eu lles o dan oruchwyliaeth y staff gofal. Cynorthwyo gofalwyr i greu amgylchedd cefnogol a chartrefol lle mae rheolaeth bersonol ac annibyniaeth yn cael ei hyrwyddo i’r eithaf. Cydymffurfio â Pholisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor Sir a’r Canllawiau Arferion Gorau a chadw at safonau iechyd a diogelwch personol ac yn y gweithlu. Gweithredu yn onest a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol. Ymgymryd â hyfforddiant pan fo angen a chyfrannu at gyfarfodydd preswylwyr a staff. |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol |
Diddordeb mewn gweithio fel gofalwr. Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a mynychu rhaglenni hyfforddiant hanfodol perthnasol.Y gallu i gyfathrebu ar bob lefelY gallu i feithrin perthnasau gwaith positif gyda phreswylwyr a chydweithwyr. Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd ac i weithio mewn modd proffesiynol. Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. |
Amodau Gwaith Arbennig |
Cyswllt â gwastraff clinigol Trin sylweddau cemegol Cefnogi’r gwaith o symud peiriannau o dan oruchwyliaeth |
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol |
Mae gofyn i weithwyr newydd fynd drwy ein gwiriadau recriwtio mwy diogel safonol; cael eu clirio gan y GDG, cyflwyno 2 eirda boddhaol, dangos tystiolaeth o gymwysterau hanfodol a dangos tystiolaeth o’r Hawl i Weithio yn y DU. Bydd geirdaon cymeriad ond yn berthnasol lle mae ymgeisydd ond newydd adael ysgol neu heb gael eu cyflogi mewn swydd o’r fath. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu un canolwr sy’n uwch aelod o staff yn eu hysgol, coleg neu brifysgol a dylai’r llall fod yn eirda cymeriad addas. Ni chaniateir i berthynas neu bartner gyflwyno geirda. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ei rwymedigaethau i ddiogelu plant ac oedolion ynghyd ag atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl, a bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl o fewn ei fusnes. Mae sawl math o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu mewn pobl, llafur gorfodol, caethiwed a chaethwasiaeth. Mae diogelu yn fater i bawb, ac mae gofyn i holl weithwyr Sir Ddinbych weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Diogelu Oedolion / Plant y Cyngor. Mae dyletswydd arnynt i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi wrth gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effro i arwyddion o gam-fanteisio. Dylid codi unrhyw bryderon â’r Rheolwr Diogelu Dynodedig er mwyn i’r Cyngor allu gweithredu’n ddi-oed wrth ddod ar draws achos o gam-fanteisio. |