Mynd i'r cynnwys

CYNLLUN DECHRAU GWAITH – Cymhorthydd Gofal Cymdeithasol – Cysgod Y Gaer – Corwen LL21 9AE

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-wait a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

SWYDD-DDISGRIFIAD

Cyflogwr: Sir Ddinbych/Work Start Scheme / Cysgod Y Gaer
Teitl Lleoliad: Cymhorthydd Gofal Cymdeithasol  
Geirdaon Gofynnoloes
Hyd y Lleoliad:12 wythnos
Oriau Gwaith:20 awr i’w gyhoeddi
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:19/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gyhoeddi
Dyddiad Cyfweliad:I’w gyhoeddi
Sut i ymgeisio:Anfonwch CV i: Workstart@denbighshire.gov.uk a cysylltiad Fiona Thomas 07468743969

Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Mae’r cyfle cyffrous hwn ar gael am leoliad gyda Chyngor Sir Ddinbych yn y maes Gofal Preswyl.

Mae’n gyfle i’r ymgeisydd cywir i weithio o fewn ein tîm gofal, i ddarparu gofal a chymorth i’n dinasyddion, i ddysgu sgiliau newydd ac i gael profiad o weithio mewn lleoliad Gofal Preswyl yng Nghyngor Sir Ddinbych.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth fel rhan o dîm gofal ymroddedig i sicrhau bod anghenion preswylwyr yn cael eu diwallu i’r safon uchaf posib a’u bod yn cael profiad cadarnhaol o ofal preswyl.

Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Arsylwi a chefnogi gofalwyr gan gynnig cymorth yn unol â chynllun gofal unigol pob preswylydd.
Defnyddio dull sy’n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ wrth weithio – sy’n golygu cydnabod bod pawb yn wahanol, ac y dylid rhoi’r unigolyn wrth wraidd eu cynllun gofal a chymorth.
Gweithio o dan oruchwyliaeth, ochr yn ochr â gofalwyr i annog dinasyddion i barhau i fod mor annibynnol â phosib.
Arsylwi a dilyn gofalwyr yn gweithio gyda’r preswylwyr hynny nad ydynt yn gallu ymdopi â rhai o’r tasgau eu hunain (e.e. cymorth i ymolchi, cael bath, rheoli ymataliaeth) – rhaid i’r tasgau hyn gael eu gwneud mewn modd sensitif gan ddangos parch i’r preswylydd.
Arsylwi gofynion preswylwyr o ran deiet, maeth ac iechyd.
Cyfathrebu gyda phreswylwyr er mwyn sicrhau eu lles o dan oruchwyliaeth y staff gofal.
Cynorthwyo gofalwyr i greu amgylchedd cefnogol a chartrefol lle mae rheolaeth bersonol ac annibyniaeth yn cael ei hyrwyddo i’r eithaf.
Cydymffurfio â Pholisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor Sir a’r Canllawiau Arferion Gorau a chadw at safonau iechyd a diogelwch personol ac yn y gweithlu.
Gweithredu yn onest a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.

Ymgymryd â hyfforddiant pan fo angen a chyfrannu at gyfarfodydd preswylwyr a staff.

Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Diddordeb mewn gweithio fel gofalwr.
Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a mynychu rhaglenni hyfforddiant hanfodol perthnasol.
Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel
Y gallu i feithrin perthnasau gwaith positif gyda phreswylwyr a chydweithwyr.
Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd ac i weithio mewn modd proffesiynol.
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Amodau Gwaith Arbennig
Cyswllt â gwastraff clinigol
Trin sylweddau cemegol
Cefnogi’r gwaith o symud peiriannau o dan oruchwyliaeth

Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol

Mae gofyn i weithwyr newydd fynd drwy ein gwiriadau recriwtio mwy diogel safonol; cael eu clirio gan y GDG, cyflwyno 2 eirda boddhaol, dangos tystiolaeth o gymwysterau hanfodol a dangos tystiolaeth o’r Hawl i Weithio yn y DU.
Bydd geirdaon cymeriad ond yn berthnasol lle mae ymgeisydd ond newydd adael ysgol neu heb gael eu cyflogi mewn swydd o’r fath. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu un canolwr sy’n uwch aelod o staff yn eu hysgol, coleg neu brifysgol a dylai’r llall fod yn eirda cymeriad addas. Ni chaniateir i berthynas neu bartner gyflwyno geirda.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ei rwymedigaethau i ddiogelu plant ac oedolion ynghyd ag atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl, a bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl o fewn ei fusnes. Mae sawl math o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu mewn pobl, llafur gorfodol, caethiwed a chaethwasiaeth.

Mae diogelu yn fater i bawb, ac mae gofyn i holl weithwyr Sir Ddinbych weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Diogelu Oedolion / Plant y Cyngor. Mae dyletswydd arnynt i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi wrth gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effro i arwyddion o gam-fanteisio. Dylid codi unrhyw bryderon â’r Rheolwr Diogelu Dynodedig er mwyn i’r Cyngor allu gweithredu’n ddi-oed wrth ddod ar draws achos o gam-fanteisio.