Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Automark |
Teitl Lleoliad: | Technegydd |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | 12 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 25 |
Cyflog: | Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 05/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk |
Dyma gyfle i weithio yn Automark, sydd wedi derbyn cymeradwyaeth gan WHICH?, Trusted Trader, RAC Approved Garages, AA, Wynns Service Centre, Service Sure, Pagid Proud To Fit a llawer mwy.
Mae Automark yn ‘Siop Un Alwad’ ar gyfer anghenion moduro o bob math. Mae gennym weithdy 10 bae gydag 11 o rampiau ar ein safle.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rydym ni’n chwilio am Dechnegydd i ymuno â’n tîm. Mae’r swydd yma i ddechreuwyr yn ddelfrydol i unigolion sydd ag angerdd am gynnal a chadw a thrwsio cerbydau, gan gynnig cyfle iddynt ddysgu a thyfu mewn amgylchedd gweithdy deinamig. Fel Technegydd, byddwch yn helpu technegwyr profiadol eraill i wneud tasgau gwasanaethu a thrwsio sylfaenol a newid teiars. Yn y swydd hon, fe geir hyfforddiant ymarferol a phrofiad gwerthfawr yn y diwydiant cerbydau modur.
Cyfrifoldebau:
Cynorthwyo technegwyr profiadol i wneud tasgau gwasanaethu a thrwsio sylfaenol ar gerbydau
Dysgu a dilyn amserlenni cynnal a chadw a gweithdrefnau ar gyfer cerbydau o wneuthuriad a modelau gwahanol
Cynorthwyo i newid teiars, yn cynnwys gosod, cydbwyso ac alinio olwynion
Cynnal glendid a threfn y gweithdy a theclynnau
Dilyn protocolau a gweithdrefnau diogelwch er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel
Dysgu i ddiagnosio problemau mecanyddol a chynorthwyo i atal problemau a’u trwsio o dan oruchwyliaeth
Cynorthwyo gyda thasgau a phrosiectau eraill a bennwyd gan Uwch Fecanyddion neu’r Rheolwyr
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Angerdd am gynnal a chadw a thrwsio cerbydau modur
Parodrwydd i ddysgu a chymryd cyfarwyddyd gan dechnegwyr profiadol
Gwybodaeth a gallu mecanyddol sylfaenol
Rhoi sylw i fanylion ac ymrwymiad i waith o safon
Sgiliau cyfathrebu ardderchog a gallu gweithio’n dda mewn tîm
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau’n gywir
Stamina corfforol a gallu gwneud gwaith llaw mewn amgylchedd gweithdy
Os ydych chi’n frwdfrydig dros ddechrau gyrfa ym maes trwsio a chynnal a chadw cerbydau modur, a’ch bod chi’n chwilio am gyfle dysgu ymarferol, rydym ni’n eich annog chi i ymgeisio am y swydd hon. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i gael profiad a hyfforddiant gwerthfawr mewn amgylchedd gweithio cefnogol a chydweithredol.
Gweithiwr da, dibynadwy, sydd â’r agwedd gywir a pharodrwydd i ddysgu.
Amodau Gwaith Arbennig
Hyfforddiant pan fo angen