Mynd i'r cynnwys

Lloriau masnachol (Mewnol ac Allanol) Coatech -Y Rhyl

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: Coatech
Teitl Lleoliad:Lloriau masnachol (Mewnol ac Allanol)  
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:12 WYTHNOS
Oriau Gwaith:16-20 yn dibynnu ar deithio  
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:19/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gadarnhau
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Fel labrwr safle / gweithiwr cyffredinol bydd gennych swyddogaeth allweddol wrth gefnogi tîm y safle a gwneud amrywiaeth eang o ddyletswyddau megis helpu i osod y safle, trin deunyddiau a sicrhau y cynhelir safonau uchel o iechyd a diogelwch ar y safle.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Helpu i lwytho a dadlwytho’r offer yn ddiogel ar faniau a gosod y safle ar ôl cyrraedd
Gosod offer, peiriant llifanu â llaw, cymysgwyr etc.
Ystyriaeth ofalus o iechyd a diogelwch bob amser ac ar bob cam o’r prosiect
Gwirio archebion deunyddiau yn erbyn nodiadau dosbarthu a dweud ynglŷn ag unrhyw ddiffygion neu broblemau
Cymysgu a pharatoi deunyddiau ar gyfer y tîm safle a gofalu a sicrhau bod offer y cwmni, offer wedi eu llogi, cerbydau ac yn y blaen yn cael eu cadw’n ddiogel
Dilyn cyfarwyddiadau gan ddatganiadau dull, asesiadau risg a goruchwyliwr safle 
Cynnal lefelau uchel o gyfathrebu ar y safle a gyda rheolwyr
Sicrhau eu bod yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol bob amser
Cynrychioli’r cwmni trwy sicrhau agwedd broffesiynol bob amser a bod yn gwrtais tuag at gleientiaid, cydweithwyr a masnachwyr eraill ar y safle
Cadw’r ardal weithio’n lân ac yn daclus heb unrhyw risgiau i’r tîm ac eraill
Glanhau a chynnal offer a chyfarpar
Glanhau’r safle a gadael y safle’n lân ac yn daclus
Cynorthwyo gyda chofnodion safle dyddiol, cymryd lluniau etc.
Cadw cerbydau’r cwmni’n lân ac yn daclus ac yn barod ar gyfer yr wythnos waith nesaf
Cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a thasgau blwch cyfarpar fel bo angen
 
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Mae CSCS a gyrru yn hynod ddymunol, fel arall byddem wir yn cael trafferth eu cludo i’r safle.
Dylent fod yn ddibynadwy
Amodau Gwaith Arbennig
Yn gweithio ar y safle ac yn y swyddfa/warws yn y Rhyl