Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Klas Transport |
Teitl Lleoliad: | Anfonwr |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | oes |
Hyd y Lleoliad: | 12 |
Oriau Gwaith: | 25 |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 23/05/2024 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk For further details please contact Pauline on 07442939087 |
Mae KLAS Transport yn weithredwr sefydledig sydd â sawl cerbyd gyda safle ym Modelwyddan. Mae gennym fflyd cymysg o gerbydau Hacni, Cerbydau Hurio Preifat a chludiant 16 sedd. Rydym ni’n gwasanaethu’r ardal leol, o Abergele i Brestatyn i Ddinbych, gan weithredu’n bennaf yn Y Rhyl. Mae dros 70% o’n fflyd yn drydan neu maent yn sero net.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Prif ddyletswyddau anfonwr yw:
Ateb galwadau ffôn gan y cyhoedd
Cofnodi’r manylion ar y system anfon
Sicrhau bod y math cywir o gerbyd yn cael ei anfon at y cwsmer, boed hwnnw’n gerbyd sy’n gallu cymryd cadeiriau olwyn, cerbyd ‘estate’ ac ati.
Monitro symudiadau gyrwyr er mwyn sicrhau bod y car gorau sydd ar gael yn cael ei anfon.
Gosod pris os oes angen.
Cymryd a phrosesu manylion talu o fewn ein system electronig.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Gallu defnyddio cyfrifiadur
Gwybodaeth am yr ardal leol
Gonest, dibynadwy, yn gallu gweithio o dan bwysau.