Mynd i'r cynnwys

Cymhorthydd Cefnogaeth Gymunedol – Y Rhyl

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: Good News in the Community 
Teitl Lleoliad:Cymhorthydd Cefnogaeth Gymunedol  
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:12 WYTHNOS
Oriau Gwaith:16YR WYTHNOS
Cyflog:Lleoliad heb Gyflog 
Dyddiad Cau:24/05//24
Dyddiad cyn sgrinio:29/05/24
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk Please call Debbie on 07833388028 to chat about the placement in detail    
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Rôl ofalgar mewn eglwys gyfeillgar gyda chalon fawr i’r gymuned leol, yn cynnig gwasanaethau amrywiol gan gynnwys bod yn safle fwyd i unrhyw un a allai fod yn cael trafferth. Bydd angen agwedd gadarnhaol at gefnogi, dull gweithredu ymarferol a sgiliau pobl rhagorol. Byddwch yn darparu cefnogaeth emosiynol gyffredinol, byddwch yn ddibynadwy ac yn parchu cyfrinachedd bob amser.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Byddwch yn ddibynadwy ac yn brydlon
Bydd modd ymddiried ynoch chi a byddwch yn parchu cyfrinachedd
Byddwch yn parchu hawliau’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw
Byddwch yn helpu i baratoi ar gyfer clybiau a chadw ar y diwedd gan gadw popeth yn daclus ac mewn trefn
Gweini lluniaeth i’r byrddau
Croesawu a chefnogi pobl yn hyderus
Adrodd yn ôl a chysylltu â’r rheolwr
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Byddwch yn dda gyda phobl ac yn gallu cyfathrebu syniadau yn glir a gwrando’n astud.
Empathetig, gofalgar a chydymdeimladol
Agwedd anfeirniadol a gallu deall a bod yn gefnogol
Agwedd gadarnhaol
Gallu gweithio fel rhan o dîm a chefnogi pobl o bob cefndir
Amodau Gwaith Arbennig
Mae cyfrinachedd yn hanfodol bob amser.
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol

Mae angen gwiriad y GDG