Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio
Swydd-ddisgrifiad
Cyflogwr: | Finer Forage |
Teitl Lleoliad: | Gweithredwr Warws / Tasgmon |
Hyd y Lleoliad: | 12 wythnos |
Oriau Gwaith: | 20 awr i’w gyhoeddi |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 15/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 17/05/2024 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gyhoeddi |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV a Workstart@denbighshire.gov.uk – Cysylltwch â Pauline Quinn ar 07442939087 am fwy o wybodaeth |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae Finer Forage yn fusnes bwyd ceffylau bach, yng Ngogledd Cymru brydferth. Yn berchnogion ac yn hoff o geffylau a merlod, cawsom ein hysbrydoli gan yr angen i ddod o hyd i fwyd oedd yn iawn i’n greoedd ein hunain. Mewn marchnad sydd yn llawn opsiynau, nid oeddem yn gallu dod o hyd i un a oedd yn iawn i ni, a gwelsom fod nifer o berchnogion eraill yn teimlo’r un fath, felly penderfynasom wneud rhywbeth am y peth. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â diddordeb mewn darparu cefnogaeth warws a chynnal a chadw cyffredinol. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
• Darparu cefnogaeth warws gan gynnwys cylchdroi stoc, rheoli stoc, pigo a phacio archebion. • Creu a chynnal system stoc a dosbarthu effeithiol. • Archebu a chynnal cyflenwadau warws. • Cyfnewid gwybodaeth i fudd-ddeiliaid. • Sicrhau bod archebion cwsmeriaid yn cael eu cyflawni’n brydlon ac effeithlon. • Sicrhau bod archebion cwsmeriaid yn cael eu paratoi ar gyfer y cludwyr sy’n eu dosbarthu. • Cynorthwyo i gynhyrchu a / neu bacio nwyddau yn unol ag anghenion y busnes. • Cynorthwyo i greu amgylchedd gwaith diogel, effeithlon a syml. • Sicrhau bod arferion iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu a’u cynnal. • Gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y safle ac amryw bethau. • Cynorthwyo i greu amryw bethau ar gyfer sioeau ac arddangosfeydd. • Gwerthu cyffredinol. • Cefnogi’r cyfarwyddwyr mewn tasgau amrywiol i fodloni anghenion y busnes, yn ôl yr angen. • Cynorthwyo i gynnal gweithfan lân a thaclus. • Cynorthwyo i gynnal y busnes yn gyffredinol. Mae’r lleoliad a’r oriau gwaith arferol i’w gweld uchod, ond mae’n bosibl y gofynnir i chi weithio ar safle arall a/neu oriau gwahanol o dro i dro. Byddwch yn cael rhybudd rhesymol o hynny. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Dymunol • Profiad blaenorol o weithrediadau warws • Profiad blaenorol mewn swyddi sy’n wynebu cwsmeriaid |