Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Klas Transport |
Teitl Lleoliad: | Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Hacni dan Hyfforddiant |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | oes |
Hyd y Lleoliad: | 12 |
Oriau Gwaith: | 25 |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 23/05/2024 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk For further details please contact Pauline on 07442939087 |
Mae KLAS transport yn weithredwr aml-gerbyd sefydledig gyda’i brif safle gweithredu ym Modelwyddan. Mae gennym fflyd cymysg o gerbydau Hacni, hurio preifat a chludiant 16 sedd. Rydym yn gwasanaethu’r ardal leol, o Abergele i Brestatyn i Ddinbych gyda’r rhan fwyaf o waith yn y Rhyl. Mae dros 70% o’n fflyd yn drydanol neu’n cynhyrchu dim allyriadau carbon.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Gwiriadau dyddiol o’r holl gerbydau
Gweithredu’r system anfon
Glanhau’r cerbydau, mân waith cynnal a chadw, ail-gyflenwi nwyddau traul
Trin arian parod
Ateb galwadau ffôn gan y cyhoedd
Cofnodi manylion yn y system anfon
Sicrhau yr anfonir y math cywir o gerbyd at y cwsmer e.e. cerbyd addas ar gyfer cadair olwyn, cerbyd ystâd ac ati.
Monitro symudiadau gyrwyr i sicrhau y caiff y cerbyd gorau sydd ar gael ei anfon at y cwsmer.
Gosod pris os oes angen.
Cymryd a phrosesu manylion talu yn ein system electronig
Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen
Delio a chwsmeriaid wyneb yn wyneb ac ar y ffôn
Ymdrin â chwynion cwsmeriaid (a chyfeirio cwynion at reolwyr pan fo angen)