Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-ddisgrifiad
Cyflogwr: | Popeye Fish & Chips |
Teitl Lleoliad: | Cogydd Cegin |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | Os yn bosibl |
Geirdaon Gofynnol | 8 wythnos |
Hyd y Lleoliad: | Promenâd y Rhyl |
Oriau Gwaith: | 25 awr |
Cyflog: | Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar Oedran |
Dyddiad Cau: | 09/05/2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | 13/05/2025 |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w drefnu |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07442 939087 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith. |
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith | |
Mae Popeye Fish & Chips yn fusnes newydd ar bromenâd y Rhyl sy’n agor diwedd mis Ebrill ac rydym yn chwilio am gogydd creadigol ac angerddol i ymuno â’n tîm. Mae Popeye Fish & Chips wedi cael ei adnewyddu’n llawn ac rydym yn edrych ymlaen at eich cael chi yn ymuno â ni ar ein taith. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Bydd y Cogydd yn goruchwylio’r gwaith o redeg ein cegin o ddydd i ddydd ac yn gallu arwain ac ysgogi staff a datblygu tîm. Creu ryseitiau a chynllunio bwydlenni mewn cegin brysur newydd ac ymchwilio i fwydydd newydd. Rheoli stoc ac archwilio danfoniadau a chynnal safonau hylendid a diogelwch bwyd bob amser, goruchwylio staff a gwneud yn siŵr fod y bwyd i safon uchel bob amser. Gallu coginio bwyd yn brydlon. Rhoi arweiniad a hyfforddiant i’ch tîm a’u helpu i wella eu sgiliau coginio a’u heffeithlonrwydd. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gonest, dibynadwy ac yn barod i weithio fel rhan o dîm gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf a’r gallu i reoli cegin a’i staff. Sgiliau cadw amser a phresenoldeb ardderchog ac yn barod i gyfathrebu ar bob lefel. |