Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio
SWYDD DDISGRIFIAD
Cyflogwr: | Cynllun Rhannu Bwyd Llangollen |
Teitl Lleoliad: | Gweithiwr Cefnogi Cymunedol |
Cyfeiriadau | Os yn bosibl |
Cyfnod | 8 wythnos |
Hyd y Lleoliad: | Canol Tref Llangollen |
Oriau Gwaith: | 25 awr |
Cyflog: | Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar Oedran |
Dyddiad Cau: | Dydd Mawrth 27 Mai 2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w drefnu |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w drefnu |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07442939087 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith |
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
Mae Cynllun Rhannu Bwyd Llangollen yn darparu parseli bwyd i bobl sy’n cael anhawster â thlodi bwyd ac mae’n rhannu bwyd dros ben o archfarchnadoedd gyda’r gymuned er mwyn osgoi gwastraff bwyd. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Mae gan Fanc Bwyd Llangollen lawer o wahanol ddyletswyddau gan gynnwys gwneud parseli bwyd, cymryd archebion dosbarthu a rhoddion, helpu i gadw’r storfa fwyd yn drefnus / cylchdroi stoc, cadw ardal y gegin a’r oergell yn lân gan gylchdroi bwyd, efallai rhywfaint o goginio fel cawl a chyri ar adegau a chynnig cefnogaeth neu gyfeirio cwsmeriaid lle bo modd. Rydym yn dîm rhagweithiol ac mae’r rôl hon yn gofyn am empathi a sgiliau gwrando ac awydd gwirioneddol i helpu yn y gymuned mewn tref fechan Gymreig yn Sir Ddinbych. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gonest, dibynadwy ac yn barod i weithio fel rhan o dîm gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf a’r gallu i helpu yn y gegin. Sgiliau cadw amser a phresenoldeb rhagorol a pharodrwydd i gyfathrebu ar bob lefel a helpu ein cynllun rhannu bwyd ardderchog ac aelodau o’r cyhoedd. Rydym yn dîm penderfynol sydd am fod yn effeithiol. |