Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen – Swyddog Mewnbynnu Data (y Swyddfa Beirianneg)

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio

SWYDD DDISGRIFIAD

Cyflogwr: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
Teitl Lleoliad:Swyddog Mewnbynnu Data (y Swyddfa Beirianneg)
CyfeiriadauOs yn bosibl
Cyfnod8 wythnos
Hyd y Lleoliad:Canol Tref Llangollen
Oriau Gwaith:25 awr
Cyflog:Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar Oedran
Dyddiad Cau: 21 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyn sgrinio:I’w drefnu
Dyddiad Cyfweliad:I’w drefnu
Sut i ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline  ar 07  i gael sgwrs am y lleoliad a’r manylion.
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Mae Llangollen yn Rheilffordd dreftadaeth sy’n dathlu 50 mlynedd eleni ac mae mewn ardal o harddwch eithriadol ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen. Agorwyd y rheilffordd ym 1975 gan grŵp o selogion a welodd y potensial ar gyfer lein dreftadaeth olygfaol. Dros y blynyddoedd, mae wedi datblygu i fod yn elusen gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. 
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Cynorthwy-ydd Mewnbynnu Data – yr Adran Beirianneg – Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen Lleoliad: Y Swyddfa Beirianneg, Llangollen Oriau: 25 awr yr wythnos, am 8 wythnos (hyblyg – gellir trafod hyn yn y cyfweliad) Dyddiad Cau: 21 Mehefin 2025 Dyddiad Dechrau: 1 Gorffennaf 2025 Cyflog: Yr isafswm cyflog cenedlaethol (yn dibynnu ar oedran) Oes gennych chi lygaid at fanylder, ydych chi’n drefnus ac yn hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Office?

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Mewnbynnu Data i gefnogi ein Hadrannau Peirianneg a Gweithrediadau prysur yn Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen. Mae’r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau tasgau strwythuredig, gweithio’n annibynnol, a helpu i sicrhau fod pethau’n rhedeg yn esmwyth. Beth fyddwch chi’n ei wneud: • Ailfformatio a diweddaru dogfennau allweddol yn defnyddio Microsoft Word ac Excel •  Mewnbynnu data’n gywir i gefnogi cofnodion peirianneg a gweithredol • Cynorthwyo â rheoli dogfennau’n fewnol a threfniadau gweinyddol • Cefnogi’r tîm ehangach gyda thasgau gweinyddol digidol arferol Amdanoch chi: • Hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Excel a Word i safon dda • Sylw rhagorol i fanylion a sgiliau teipio cywir • Gallu gweithio’n annibynnol heb fawr o oruchwyliaeth •  Trefnus a dibynadwy • Dim dyletswyddau ymdrin â’r cyhoedd – delfrydol i unrhyw un sy’n ffafrio gwaith â ffocws, y tu ôl i ddesg Mae hwn yn gyfle gwych i gael profiad ymarferol mewn amgylchedd rheilffordd treftadaeth, wrth gefnogi adrannau hanfodol y tu ôl i’r llenni.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Gonest, dibynadwy ac yn barod i weithio mewn tîm, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmer cryf a’r gallu i roi 100%. Sgiliau cadw amser a phresenoldeb ardderchog, parodrwydd i gyfathrebu ar bob lefel ac awydd i’n helpu ar ein siwrnai wrth symud ymlaen. Mae’n gyfle ardderchog i rywun sydd eisiau her