Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio
SWYDD DDISGRIFIAD
Cyflogwr: | Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen |
Teitl Lleoliad: | Cynorthwy-ydd Cydlynu Gwirfoddolwyr |
Cyfeiriadau | Os yn bosibl |
Cyfnod | 8 wythnos |
Hyd y Lleoliad: | Canol Tref Llangollen |
Oriau Gwaith: | 25 awr |
Cyflog: | Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar Oedran |
Dyddiad Cau: | 21 Gorffennaf 2025 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w drefnu |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w drefnu |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07 i gael sgwrs am y lleoliad a’r manylion. |
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
Mae Llangollen yn Rheilffordd dreftadaeth sy’n dathlu 50 mlynedd eleni ac mae mewn ardal o harddwch eithriadol ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen. Agorwyd y rheilffordd ym 1975 gan grŵp o selogion a welodd y potensial ar gyfer lein treftadaeth golygfaol. Dros y blynyddoedd, mae wedi datblygu i fod yn elusen gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. | |
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau | |
Ydych chi’n drefnus, yn canolbwyntio ar bobl, ac yn barod i wneud gwahaniaeth yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir Ddinbych? Ymunwch â ni yn Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen fel ein Cynorthwy-ydd Cydlynu Gwirfoddolwyr a chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein tîm anhygoel o wirfoddolwyr! Beth fyddwch chi’n ei wneud: • Cefnogi ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr ym mhob agwedd ar ymgysylltu â gwirfoddolwyr • Ymateb i ymholiadau gwirfoddolwyr drwy e-bost, ffôn, a WhatsApp busnes • Prosesu ceisiadau gwirfoddolwyr newydd a’u helpu i ymgartrefu yn y tîm • Cynnal cofnodion a data cywir gan ddefnyddio Microsoft Office (Excel, Word, Outlook) • Yn ein helpu i ddarparu profiad cynnes a chroesawgar i bawb sydd eisiau cymryd rhan! Amdanoch chi: • Hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Office, yn enwedig Excel, Word ac Outlook • Cyfeillgar, brwdfrydig, a phroffesiynol wrth ddelio â’r cyhoedd • Cyfathrebwr gwych ar bob lefel, gyda sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol • Hunan-gychwynnwr brwdfrydig sy’n gallu rheoli ei amser yn effeithiol Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad gweinyddu a chydlynu gwerthfawr mewn lleoliad treftadaeth bywiog – ac i weithio ochr yn ochr â phobl angerddol sy’n gwneud gwir effaith yn y gymuned. | |
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
Gonest, dibynadwy, ac yn barod i weithio fel tîm gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf sydd â’r gallu i roi gant y cant. Amseroldeb a phresenoldeb rhagorol, ac yn barod i gyfathrebu ar bob lefel ac eisiau helpu ar ein taith i’r dyfodol. Mae’n gyfle ardderchog i rywun sydd eisiau her |