Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Micky’s – Cymhorthydd Caffi – Y Rhyl

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

Swydd-ddisgrifiad

Cyflogwr: Micky’s
Teitl Lleoliad:Cymhorthydd Caffi
Hydoedd12 wythnos
Hyd y Lleoliad:Micky’s Lounge and Bar 83-84 Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl, LL18 1HX
Oriau Gwaith:25
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:13/03/2026
Dyddiad cyn sgrinio:TBC
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Fiona ar 07468743969 is gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Yn galw ar holl gonnisseurs caffi a’r rhai sy’n frwdfrydig am letygarwch! Ydych chi’n barod i ymuno â’r tîm dynamig yn Micky’s Lounge Bar a dechrau ar siwrnai gyffrous fel Cymhorthydd Caffi? Mae’r rôl yn gyfle perffaith i chi ddatblygu eich angerdd am wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a’ch arddull ar gyfer creu profiad caffi gwych.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Dewch â’ch gorau i’r rôl fywiog hon: Ymdrochwch eich hunain yn awyrgylch Micky’s Lounge Bar a chyfrannwch at greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol ar gyfer ein holl westeion. Datblygwch eich sgiliau yn y gelfyddyd o ddarparu prydau a phaneidiau perffaith i lonni cwsmeriaid. Croesawch y cyfle i ddysgu a thyfu, wrth i chi weithio ar y cyd â thîm angerddol sydd wedi ymrwymo i ddarparu lletygarwch rhagorol. Gofynion a Ffefrir: Brwdfrydedd gwirioneddol ar gyfer y diwydiant lletygarwch ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Dangos sgiliau cyfathrebu ardderchog, gan eich galluogi chi i ymgysylltu gyda chwsmeriaid a chydweithwyr mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol. Dangos llygad dda am fanylder. Dealltwriaeth sylfaenol o baratoi bwyd a diod, neu barodrwydd i ddysgu. Bod yn chwaraewr tîm sy’n gallu addasu ac yn awyddus i gyfrannu tuag at lwyddiant cyffredinol Micky’s Lounge Bar.  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Rhinweddau’r Ymgeisydd Delfrydol: Rhaid bod â diddordeb mewn gwaith caffi a bod yn barod i weithio i ennill cymhwyster. Ffefrir profiad blaenorol mewn rôl sy’n wynebu cwsmeriaid o fewn y diwydiant lletygarwch neu fwyd a diod, ond nid yw’n hanfodol. Agwedd gadarnhaol a brwdfrydig gyda dyhead gwirioneddol i ddysgu a thyfu o fewn y diwydiant.  
Amodau Gwaith Arbennig
Mae’r cyflogwr yn gyfeillgar o ran anabledd a Niwroamrywiaeth. Yn ddelfrydol, dylai cyfranogwyr fod 18+ oed gan fod y sefydliad yn un trwyddedig.