Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Gwasanaethau Addysg a Phlant  – Tîm Cefnogi Busnes – Y Rhyl

Dim ond preswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

Swydd-Ddisgrifiad

Adran:Gwytnwch Cymunedol
Teitl y Lleoliad Gwaith:Gwytnwch Cymunedol – Cefnogaeth Prosiect
Angen Geirdaon:1
Hyd y Lleoliad Gwaith:12 wythnos
Lleoliad:Swyddfa Y Rhyl/Rhuthun – Hyblyg
Oriau Gwaith:16 awr yr wythnos
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:20/02/2026
Dyddiad Cyn Sgrinio:26/02/2026
Dyddiad Cyfweliad:TBC
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Kate Thew ar 07920767514 i gael sgwrs am y lleoliad.
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
O dan gyfarwyddyd Swyddog Cyswllt Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned: darparu cymorth clercio/gweinyddu cyffredinol i’r gwasanaeth, efallai bydd rhai agweddau yn benodol i’r safle, tîm neu swyddfa unigol.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Teipio a gairbrosesu dogfennau sylfaenol a gwneud tasgau Technoleg Gwybodaeth eraill Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol yn ôl y gofyn gan gynnwys cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd. Cyflawni gweithdrefnau gweinyddol e.e. trefnu cyfarfodydd (gan gynnwys archebu ystafelloedd, gwneud trefniadau llety ac ati). Darparu cymorth clercio/gweinyddu cyffredinol, ac ymateb i ohebiaeth gyffredinol Cynnal systemau rheoli gwybodaeth/cofnodion cyfrifiadurol a phapur. Darparu rhestrau/gwybodaeth/data yn ôl y gofyn. Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu a datblygu perfformiad eraill yn ôl yr angen. Cyflawni dyletswyddau perthnasol eraill ar gais uwch aelodau staff.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Sgiliau cyfathrebu da Sgiliau rhifedd/ llythrennedd da Gwaith clercio/gweinyddol cyffredinol Gweithredu offer/pecynnau TGCh perthnasol (e.e. Word, Excel, cronfeydd data, taenlenni, rhyngrwyd) Sgiliau cyfrifiadurol/bysellfwrdd. Sicrhau cyfrinachedd a diplomyddiaeth fel sy’n briodol. Gweithio’n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau pawb a’ch rhan chi o fewn hynny. Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi