Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Cyngor Sir Ddinbych – Gofalwr Ysgol Frongoch – Dinbych

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.

Swydd-ddisgrifiad

CwmniCyngor Sir Ddinbych
Teitl y Lleoliad Gwaith:Gofalwr Ysgol Frongoch
Nifer y lleoliadau sydd ar gael:1
Angen GeirdaonOes
Hyd y Lleoliad Gwaith:12 wythnos
Oriau Gwaith:25 yr wythnos
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:27/02/2026
Dyddiad Cyn Sgrinio:05/03/2026
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i Ymgeisio:Anfonwch eich CV i: workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Mae’r Gofalwr yn gyfrifol am gynnal amgylchedd glân, saff a diogel i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr. Mae’r swydd hon yn cyfuno dyletswyddau cynnal a chadw cyffredinol, glanhau, diogelwch a dyletswyddau cefnogi er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu mewn modd esmwyth.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Trwsio a Chynnal a Chadw Gwneud mân waith atgyweirio i adeiladau, dodrefn ac offer. Monitro a chynnal a chadw systemau gwresogi, goleuadau, plymio a thrydanol. Cydlynu gyda chontractwyr allanol ar gyfer archwiliadau neu waith atgyweirio mawr. Sicrhau bod ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd ac ardaloedd cymunedol yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Glanhau a Hylendid Glanhau a chynnal adeiladau’r ysgol, yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd, toiledau a choridorau. Sicrhau bod gweithdrefnau gwaredu gwastraff ac ailgylchu’n cael eu dilyn. Cynnal a chadw offer a chyflenwadau glanhau. Diogelwch Cloi a datgloi yr ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Monitro eiddo ar gyfer peryglon diogelwch ac ymateb i argyfyngau. Sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch yn cael eu dilyn, yn cynnwys ymarferion tân a gwagio’r adeilad mewn argyfwng. Rhoi gwybod am unrhyw broblemau iechyd a diogelwch yn gyflym. Rheoli’r Tir a Chyfleusterau Cynnal a chadw tir yr ysgol, yn cynnwys gerddi, caeau chwaraeon a llwybrau. Clirio eira, dail ac unrhyw beryglon eraill fel y bo angen. Gosod dodrefn ac offer ar gyfer digwyddiadau’r ysgol, ac yna eu cadw. Gwasanaethau Cymorth Cynorthwyo staff i symud offer, paratoi’r ystafelloedd dosbarth a thasgau logisteg eraill. Ymateb i geisiadau gan staff neu ddisgyblion ar gyfer mân waith cynnal a chadw. Cadw rhestr o gyflenwadau glanhau a chynnal a chadw.  
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Mae profiad blaenorol ym maes cynnal a chadw, rheoli cyfleusterau neu o fod yn ofalwr yn ddymunol. Deall rheoliadau iechyd a diogelwch. Ffitrwydd corfforol a gallu cyflawni tasgau ymarferol. Dibynadwyedd, gonestrwydd a gallu gweithio’n annibynnol. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.  
Amodau Gwaith Arbennig
Efallai y bydd gofyn i chi weithio’n fuan yn y bore, gyda’r nos neu ar benwythnos yn achlysurol pan fo digwyddiadau. Yn cynnwys tasgau dan do a thu allan, gwaith llafur ac amlygiad i gemegau glanhau.   Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Angen Geirdaon  
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol
  Bydd angen llofnod cyfrinachedd.