Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-ddisgrifiad
| Cyflogwr: | GRO/HEAVENLEIGH HAIR&BEAUTY |
| Teitl y Lleoliad Gwaith: | THERAPYDD HARDDWCH |
| Hyd y Lleoliad Gwaith: | 12 Wythnos |
| Lleoliad y Lleoliad Gwaith: | PRESTATYN |
| Oriau Gwaith: | 25 |
| Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
| Dyddiad Cau: | 20/02/2026 |
| Dyddiad Cyn Sgrinio: | 26/02/2026 |
| Dyddiad Cyfweliad: | TBC |
| Sut i Ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Pauline ar 07442 939087 i gael sgwrs fanwl am y lleoliad gwaith. |
| Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
| Rydym yn salon trin gwallt a pharlwr harddwch, sy’n cael ei reoli gan Emma Williams, sydd â 40 mlynedd o brofiad. Rydym wedi mynd i bartneriaeth gyda’r ochr harddwch. Rydym yn cynnig gwasanaeth trin gwallt fegan, heb greulondeb, moesegol. Mae gennym dudalen Facebook ac Instagram. Rydym yn cynnig wacsio corff, triniaeth y traed a’r dwylo, aeliau a phob gwasanaeth trin gwallt. | |
| Dyletswyddau a Thasgau | |
| Rydym yn chwilio am Therapyddion Harddwch, Ewinedd a Gwallt. Byddwn yn dymuno ac yn ystyried Lefel 2. Mae gennym dudalen Facebook hefyd, ac rydym ond yn defnyddio Cynnyrch Organig a Fegan byddai unrhyw un o’r sectorau uchod yn ddelfrydol, rydym yn salon prysur ac mae gwasanaeth cwsmer yn bwysig. Cwrdd, a chyfarch ein cwsmeriaid Golchi / cribo Brwsio’r llawr Gwneud paned i’n cwsmeriaid Gweithio yn y dderbynfa a thrin arian parod Ateb y ffôn a gwneud apwyntiadauByddai NVQ mewn Ewinedd Acrylig a Gel yn ddefnyddiol Mae’n rhaid cael NVQ Lefel 2 ar gyfer Triniaethau Harddwch Cadw’r siop yn lân ac yn daclusGweithio ar eich menter eich hun | |
| Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
| Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig gyda sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid da, sydd â diddordeb mewn Gwallt a Harddwch. Bydd rhaid bod yn brydlon ac yn bresennol, ac yn barod i adeiladu cysylltiadau â chleientiaid. Bydd angen ymchwilio i gynnyrch a chael gwybodaeth dda ohono. Gofynnwn am sgiliau cyfathrebu da, a’r awydd i wybod beth yw’r cynnyrch diweddaraf, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleientiaid. | |