Mynd i'r cynnwys

Cynllun Dechrau Gwaith – Copper Pot Caffi – Cynorthwy-ydd caffi / cogydd cynorthwyol – Dinbych

Dim ond preswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio

SWYDD-DDISGRIFIAD

Cyflogwr: Copper Pot Caffi
Teitl y Lleoliad Gwaith:Cynorthwy-ydd caffi / cogydd cynorthwyol
Hyd y Lleoliad Gwaith:12 wythnos
Lleoliad y Lleoliad Gwaith:Dinbych
Oriau Gwaith:25 awr
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:06/03/2026
Dyddiad Cyn Sgrinio:11/03/2026
Dyddiad Cyfweliad:TBC
Sut i Ymgeisio:Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Debbie ar 07833 388028  i gael sgwrs am y lleoliad a’r manylion.
Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio
Cyfle i weithio mewn siop goffi / caffi prysur, annibynnol sy’n croesawu teuluoedd, mewn awyrgylch tawel a chroesawgar, sy’n ganolbwynt yn y gymuned.  
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Blaen Tŷ Gweini byrddau
Defnyddio peiriant coffi
Helpu gyda choginio
(rhoddir cefnogaeth lawn)
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu rhagorol, cwrtais a chyfeillgar yn cynnwys croesawu cwsmeriaid. Dibynadwy a phrydlon Sylw i fanylder a gwybodaeth am y fwydlen Gwaith tîm Sgiliau trefnu Dealltwriaeth o’r peiriant coffi (ond rhoddir hyfforddiant) Yn gyfforddus i helpu’r cogydd os oes angen Dilyn gofynion iechyd a diogelwch      
Amodau Gwaith Arbennig
Bod yn ymwybodol o unrhyw beryglon yn y gweithle