Dim ond preswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Swydd-Ddisgrifiad
| Adran: | Sir Ddinbych yn Gweithio |
| Teitl y Lleoliad Gwaith: | Clerc Cofnodi Data |
| Hyd y Lleoliad Gwaith: | 12 wythnos |
| Lleoliad y Lleoliad Gwaith: | Llyfrgell y Rhyl, y Rhyl. |
| Oriau Gwaith: | Dyddiau Llun–Gwener ( 25 awr ) |
| Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
| Dyddiad Cau: | 27/02/2026 |
| Dyddiad Cyn Sgrinio: | 03/03/2026 |
| Dyddiad Cyfweliad: | TBC |
| Sut i Ymgeisio: | Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Fiona ar 07468743969 el sgwrs am y lleoliad a’r manylion. |
| Crynodeb o’r Cyfle am Leoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio | |
| Mae cyfle am leoliad gwaith 12 wythnos fel Clerc Cofnodi Data ar gael gyda Sir Ddinbych yn Gweithio. Mae’r swydd hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n drefnus a chywir ac yn gyfforddus yn gweithio â systemau digidol. Bydd y lleoliad gwaith yn darparu profiad ymarferol o dasgau gweinyddol a thrin data a ddefnyddir ar draws Sir Ddinbych yn Gweithio, gan gynnig sgiliau gwerthfawr i gefnogi cyflogaeth yn y dyfodol. | |
| Dyletswyddau/ Cyfrifoldebau | |
| Tasgau Cofnodi Data Trosglwyddo gwybodaeth am gyfranogwyr yn gywir i system Rheoli Cyswllt Cwsmer newydd Sir Ddinbych yn Gweithio. Cadw cofnodion electronig yn unol â phrosesau’r tîm a gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Sicrhau bod data yn gywir, drwy wirio am wallau, anghysonderau neu wybodaeth goll. Cymorth Gweinyddol Cefnogi’r tîm drwy gynnal systemau ffeilio digidol a chyfleuster storio dogfennau trefnus. Paratoi gohebiaeth syml neu dempledi yn ôl yr angen. Monitro a Chofnodion Olrhain presenoldeb, gweithgareddau ymgysylltu a gwybodaeth ynghylch apwyntiadau cyfranogwyr yn ôl yr angen. Gweithio gydag aelodau staff i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gyfredol at ddibenion archwilio a monitro. Cymorth Tîm Cyffredinol Cynorthwyo gydag unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn y tîm sy’n cael eu hystyried yn angenrheidiol. | |
| Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol | |
| Gwybodaeth Dealltwriaeth syml am gyfrinachedd, y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data a phwysigrwydd ymdrin â data yn ddiogel. Ymwybyddiaeth gyffredinol o’r heriau y mae unigolion sy’n profi tlodi, diweithdra neu anfantais gymdeithasol yn eu hwynebu. Sgiliau Rhoi sylw da i fanylion a gallu dilyn prosesau yn gywir. Gallu defnyddio cyfrifiaduron yn hyderus, gan gynnwys meddalwedd Microsoft Office syml. Gallu gweithio mewn modd trefnus, rheoli tasgau a chyrraedd terfynau amser. Sgiliau cyfathrebu da wrth weithio gyda chydweithwyr. Profiad (Dymunol) Profiad o gofnodi data, gweinyddu neu weithio gyda chronfeydd data neu daenlenni digidol. Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa neu o gefnogi gwasanaethau sy’n delio â’r cyhoedd. Rhinweddau Personol Unigolyn dibynadwy a threfnus, sydd ag agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu tasgau newydd. Gallu gweithio’n annibynnol, yn ogystal â fel rhan o dîm. Unigolyn amyneddgar, hawdd troi atoch, sy’n gallu ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol mewn modd cyfrifol. Parod i ddatblygu sgiliau newydd ac addasu i flaenoriaethau sy’n newid. | |