Anfonwch CV i: workstart@denbighshire.gov.uk Ffoniwch Debbie on 07833 388028i gael sgwrs a rhagor o fanylion am y lleoliad gwaith
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Dyma gyfle gwych i weithio gyda Humphreys Signs, busnes arwyddion sydd wedi gwneud enw da dros ben iddo’i hun. Pan oedd Neil Armstrong a Buzz Aldrin yn ‘cymryd cam fach dros ddyn’ roedd Will Humphreys yn cymryd y ‘naid anferth’ o fod yn fyfyriwr coleg celf i fod yn egin entrepreneur wrth iddo sefydlu ei fusnes newydd, Humphreys Signs. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl buddsoddiad parhaus a sylweddol mewn offer a thechnoleg o’r radd flaenaf, mae Wil Humphreys a’i dîm ymroddedig yn gallu cynhyrchu’r arwydd perffaith sy’n cwrdd ag union anghenion unrhyw gwsmer. Mae hwn yn gyfle delfrydol ar gyfer argraffydd profiadol neu argraffydd dan hyfforddiant.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Mae gennym swydd yn ein ffatri arwyddion ar gyfer argraffydd profiadol neu rywun addas i fod yn argraffydd dan hyfforddiant i weithio gyda’n timau printio digidol ochr yn ochr â’n hadrannau gweithgynhyrchu, gosod a phacio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i ddechrau fel rhan o dîm printio digidol profiadol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu defnyddio cyfrifiaduron a gorau oll os oes ganddynt brofiad o’r diwydiant gwneud arwyddion, ond nid yw hynny’n hanfodol gan y gallwn roi hyfforddiant. Bydd yn ofynnol codi a symud eitemau yn ddyddiol (symud dalenni neu rîls cyfryngau mawr) , ynghyd â’r posibilrwydd o weithio ar ben ysgolion neu sgaffaldio o dro i dro os bydd yn ofynnol cynorthwyo ein gosodwyr arwyddion, er na fydd hyn yn angenrheidiol ar y dechrau. Mae’r gwaith yn cynnwys gweithio gydag offer argraffu fformat mawr fel argraffwyr gwastad a pheiriannau rîl i rîl gan gynhyrchu allbwn printiedig o ansawdd uchel.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Bydd etheg waith lân a threfnus yn hollbwysig os am lwyddo yn ein sefydliad ni. Mae’r gallu i dalu sylw i fanylion, i weithio hyd y safonau uchaf bob amser, prydlondeb ac agwedd gydwybodol yn hollbwysig ar gyfer y swydd hon. Mae natur y gwaith yn gofyn am unigolyn sy’n hyblyg ac sy’n barod i gynorthwyo yn unrhyw adran yn ôl y galw. Mae’n bosibl y bydd yn angenrheidiol gwneud rhywfaint o waith gosod arwyddion y tu allan i’r ffatri a bydd hyn yn cynnwys pob agwedd ar y broses o roi arwyddion yn eu lle. Byddai trwydded yrru lawn yn fanteisiol ond yw’n hanfodol.