Mae Gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Er mwyn i chi dderbyn cefnogaeth gan Wasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio rydym ni (y darparwr gwasanaeth) angen casglu gwybodaeth gennych chi. Mae pob maes yn orfodol oni nodir fel arall. Bydd yr holl wybodaeth rydych chi’n ei darparu’n cael ei chadw a’i defnyddio yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Mae gennych chi hawl i weld y data sy’n cael ei gadw amdanoch chi ac i gywiro’r wybodaeth yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Swyddog Gwybodaeth Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN. E-bost: information@denbighshire.gov.uk <mailto:information@denbighshire.gov.uk>
I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, ewch i wefan www.sirddinbych.gov.uk a/neu edrychwch ar Hysbysiad Preifatrwydd CSDd – https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/legal/privacy.aspx
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio a phwy fydd yn gallu cael mynediad ati. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei hanfon at Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ac mewn rhai achosion at bartïon sy’n gweithio ar eu rhan, ac yn cael ei defnyddio yn y ffyrdd canlynol: –
- I gyflawni gofynion adrodd yn ôl ar gyfer prosiectau Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth y DU ac/neu Lywodraeth Cymru.
- I fonitro ac adrodd ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael eu cefnogi (e.e. gwahanol oedran, rhyw ac ethnigrwydd).
- Gan Gyngor Sir Ddinbych/Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, i gyllido, cynllunio, monitro ac arolygu’r dysgu, ac i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol.
- Gan sefydliadau ymchwil cymdeithasol a gymeradwywyd, i ymchwilio, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal.
- Er dibenion archwilio/dilysu gan Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth y DU a/neu Lywodraeth Cymru.
- I gysylltu eich data o’r ffurflen hon i ffynonellau data eraill er mwyn gwerthuso effaith y prosiect ar y bobl a gymerodd ran.
O ganlyniad i’r gwasanaeth hwn dim ond data ystadegol dienw y byddwn yn ei ddarparu i sefydliadau ymchwil trydydd parti. Wedi hynny gall sefydliadau ymchwil gysylltu â sampl o unigolion ar gyfer dibenion cyflawni ymchwil academaidd neu arfarnol eu hunain. Os byddant yn cysylltu â chi i gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil/ gwerthuso am eich profiad ar y prosiect, bydd pwrpas y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei esbonio i chi a byddwch yn cael dewis cymryd rhan neu beidio. Dim ond er dibenion ymchwil sydd wedi’u cymeradwyo ac yn unol â Chyfraith Diogelu Data’r DU y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio. Bydd y sefydliadau ymchwil yn dileu eich manylion cyswllt pan fydd y gwaith ymchwil a gymeradwywyd wedi’i gwblhau.