Mynd i'r cynnwys

Cymhorthydd Gofal Plant – Y Rhyl

Teitl y Lleoliad Gwaith: Cymhorthydd Gofal Plant
Cyfeirnod: 
Adran: Cymunedau a Chwsmeriaid
Lleoliad: Canolfan y Dderwen/ Gofal Plant Crist y Gair
Hyd y Lleoliad:12 wythnos
Oriau Gwaith:16 awr yr wythnos
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:19/05/2024
Dyddiad y Cyfweliad:TBC
Crynodeb o Gyfle Lleoli Cynllun Cychwyn Gwaith
 
Mae Canolfan y Dderwen yn Ganolfan Integredig i Blant a weithredir gan Gyngor Sir Ddinbych.  Cafodd ei sefydlu yn 2005 i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd yn ardaloedd de a de-orllewin y Rhyl.  Mae’r Ganolfan yn darparu nifer o wasanaethau i deuluoedd o ofal mamolaeth i wasanaethau ieuenctid. Dechreuodd y ddarpariaeth gofal plant gydag un ystafell cylch chwarae yn gofalu am 16 o blant ac oherwydd y galw, mae wedi tyfu yn Ganolfan Gofal Plant y Dderwen.  Gallwn gynnig gofal i hyd at 77 o blant ar unrhyw adeg ac mae’r gofal plant a gynigir i rieni a’u teuluoedd yn fforddiadwy er mwyn eu galluogi i ddychwelyd i’r gwaith neu i gyrsiau hyfforddiant. Gallwn bellach ofalu am fabanod o 8 wythnos oed i fechgyn a merched sy’n tyfu yr holl ffordd i 12 oed a thu hwnt mewn rhai amgylchiadau – mae hyn yn darparu cysondeb a sefydlogrwydd hyd at ac yn ystod eu blynyddoedd academaidd. Mae staff ein Canolfan yn credu mewn cyfle cyfartal ac yn croesawu pob plentyn.
 
Agorodd Gofal Plant Crist y Gair yn yr Ysgol Gatholig 21ain Ganrif newydd ym mis Medi 2019.  Gallwn ofalu am hyd at 69 o blant ar unrhyw adeg a chynnig gofal plant fforddiadwy o safon i rieni a’u teuluoedd mewn ethos ysgol ffydd. Gallwn ddarparu gofal i fechgyn a merched o 2 oed yr holl ffordd i 12 oed a thu hwnt mewn rhai amgylchiadau – mae hyn yn darparu cysondeb a sefydlogrwydd hyd at ac yn ystod eu blynyddoedd academaidd. Mae’r staff yn ein lleoliad yn credu mewn cyfle cyfartal ac yn gwerthfawrogi ethos Gatholig Ysgol Crist y Gair ac rydym yn croesawu bob plentyn.
 
Crynodeb o’r Rhaglen Lleoliadau Gwaith
Mae’n gyfle i gael blas ar weithio o fewn lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru i blant rhwng 0 a 12 oed.
 
Cysgodi/gweithio ochr yn ochr â’r tîm datblygu gofal plant i ennill gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â dysgu a datblygu gofal plant o fewn cwricwlwm y cyfnod sylfaen.
 
Cynorthwyo â gweithgareddau dyddiol i blant sydd wedi’u cynllunio o fewn yr ystafelloedd. Darparu profiad dysgu gwerthfawr ac ysgogol er mwyn helpu’r plant i ffynnu. 
 
 
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Cynorthwyo â darparu a datblygu darpariaeth gofal plant Little Acorns a Chlwb Hwyl Fforest.
Darparu amgylchedd a chyfle chwarae wedi’i gyfoethogi, cynhwysol lle gall plant ddatblygu yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.
Goruchwylio’r plant drwy’r adeg, sicrhau y cydymffurfir â holl bolisïau a gweithdrefnau yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a safonau gofynnol AGGCC (Estyn, ECERS, ITERS a menter Cyn-ysgol Iach)
Cynorthwyo i baratoi’r deunyddiau a’r gweithgareddau yn yr ystafell i gynorthwyo profiadau chwarae’r plant a deilliannau dysgu.
Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan a mynegi eu barn, ac y gwrandewir arnynt a’u trin â pharch
 
 
Gofynion Hanfodol
Gallu cyfathrebu’n dda gydag oedolion a phlant
 
Gallu cynllunio a threfnu gweithgareddau ar gyfer plant
 
Gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm