Mynd i'r cynnwys

CYMHORTHYDD CAFFI – LLANELWY

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: HOSBIS SANT CYNDEYRN – LLANELWY
Teitl Lleoliad:CYMHORTHYDD CAFFI
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:O 4 WYTHNOS – HYBLYG
Oriau Gwaith:I’w gadarnhau
Cyflog:AMH. GWAITH DI-DÂL
Dyddiad Cau:19/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gadarnhau
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk For further details please contact Pauline on 07442939087  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Cyfle gwych yng nghaffi cariad yr hosbis sydd â seddi i 38 o bobl. Mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10am-4pm ac mae amrywiaeth o fwydydd cartref a lluniaeth ar gael. Nid yw coginio a pharatoi bwyd yn rhan o’r swydd hon. Bydd gwisg yn cael ei darparu a bydd parcio am ddim os oes angen.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rhoi croeso cynnes a sicrhau amgylchedd croesawgar i gwsmeriaid.
Cynorthwyo cogyddion a thîm blaen y tŷ’r caffi i redeg y caffi o ddydd i ddydd
Sicrhau bod byrddau a’r ardaloedd cyfagos yn lân ac yn daclus
Cymryd archebion a gweini bwyd a diod
Llwytho a dadlwytho’r peiriant golchi llestri 3 munud
Bod yn gyfarwydd â’r cyfarwyddiadau tân a dilyn unrhyw weithdrefnau gofynnol
 
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Sgiliau trefnu rhagorol
Parodrwydd i gwblhau hyfforddiant gorfodol
Cywirdeb ac yn rhoi sylw i fanylion
Sgiliau cyfathrebu da
Agwedd hyblyg at waith
Synnwyr cyffredin a phwyll wrth ymdrin ag amrywiaeth o sefyllfaoedd
Gweithio ar eich liwt eich hun a dealltwriaeth dda o gydraddoldeb ac amrywiaeth
 
Amodau Gwaith Arbennig
Sicrhau ym mhob achos eich bod chi’n cynrychioli Hosbis Sant Cyndeyrn mewn modd cadarnhaol.
Dylai’r dyletswyddau i gyd gael eu cyflawni yn unol â gweithdrefnau, anghenion a gwasanaeth yr hosbis yn unol â thegwch, cydraddoldeb a chanllawiau proffesiynol eraill.
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol