Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | HOSBIS SANT CYNDEYRN – LLANELWY |
Teitl Lleoliad: | PORTHOR CEGIN / GOLCHWR LLESTRI |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | O 4 WYTHNOS GALL FOD YN HYBLYG |
Oriau Gwaith: | I’W GADARNHAU |
Cyflog: | DI-DÂL |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk For further details please contact Pauline on 07442939087 |
Cyfle gwych i gael profiad o fod yn rhan o dîm ardderchog yng Nghaffi Cariad.
Cynorthwyo’r tîm arlwyo, cynnal safonau uchel mewn perthynas â hylendid a diogelwch bwyd.
Mae hwn yn gaffi mewn hosbis, gyda lle i 38 eistedd, ac mae’n agored saith niwrnod yr wythnos o 10am tan 4pm.
Gweinir bwyd cartref blasus a lluniaeth amrywiol.
Sylwer nad oes angen coginio na pharatoi bwyd yn y rôl hon.
Darperir mannau parcio am ddim ar y safle os oes angen, yn ogystal â gwisg bwrpasol.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Dyletswyddau golchi llestri cyffredinol â llaw neu gan ddefnyddio peiriant golchi llestri
Cadw cyllyll, ffyrc a llwyau a llestri ar y silffoedd
Cynnal gwaith glanhau o safon uchel
Cydymffurfio â gofynion hylendid bwyd a diogelwch
Rhoi gwybod am bob digwyddiad, damwain, ac achos pan fu damwain bron â digwydd
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Glanhau
Gwaith tîm
Byddai unrhyw brofiad arlwyo’n fuddiol; fodd bynnag, nid yw’n angenrheidiol
Rhywfaint o ddealltwriaeth o iechyd a diogelwch
Cwrtais a thrwsiadus
Sgiliau personol da, a gallu gweithio’n annibynnol
Amodau Gwaith Arbennig
Gweithio’n unol â pholisïau’r hosbis a safonau gofal bob amser. Darperir cefnogaeth lawn.
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol