Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Salford Childrens’ Holiday Camp |
Teitl Lleoliad: | Cynorthwyydd Cegin a Chyffredinol |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 |
Geirdaon Gofynnol | |
Hyd y Lleoliad: | 12 WYTHNOS |
Oriau Gwaith: | 16 |
Cyflog: | NMW |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gadarnhau |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gadarnhau |
Sut i ymgeisio: | Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk |
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys stocio cynhwysion, torri cynnyrch, eu rhannu i ddognau a glanhau’r gegin. Cynorthwyo gyda brecwast, cinio a swper.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
• Golchi, plicio a pharatoi cynhwysion bwyd
• Defnyddio offer megis cymysgwyr, cyllyll arbennig a thorwyr
• Adolygu rhestr stoc y gegin a phenderfynu pa eitemau sydd eu hangen
• Dadlwytho cyflenwadau ffres a threfnu’r ystafell stoc
• Gwirio dyddiadau gwerthu a chylchdroi bwyd
• Sicrhau fod yr ardaloedd paratoi bwyd yn lân ac yn hylan
• Glanhau offer coginio a llestri a sicrhau eu bod yn cael eu storio’n briodol
• Gwaredu sbwriel
• Trefnu bod llieiniau’n cael eu golchi
• Arsylwi amseroedd coginio a thymereddau cywir
• Technegau paratoi a choginio bwyd rhagorol
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Byddai ymwybyddiaeth o hylendid cegin a safonau diogelwch yn fanteisiol.
Sylw i fanylder a sgiliau trin pobl. Gonest, dibynadwy a gweithgar ac yn fodlon dysgu sgiliau newydd a bod yn hyblyg o ran gweithio a sgiliau cadw amser rhagorol.
Amodau Gwaith Arbennig
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol
Mae’r swydd hon yn cynnwys gweithio gyda phlant o grwpiau agored I niwed ac felly bydd angen gwiriad DBS