Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
Cyflogwr: | Cyngor Sir Ddinbych/Work Start Scheme |
Teitl Lleoliad: | Cymhorthydd Gofal Cymdeithasol |
Nifer o swyddi gwag y lleoliad: | 1 x Llys Awelon (Ruthin) |
Geirdaon Gofynnol | Yes |
Hyd y Lleoliad: | 12 wythnos |
Oriau Gwaith: | 20 awr i’w gyhoeddi |
Cyflog: | Isafswm Cyflog Cenedlaethol |
Dyddiad Cau: | 19/05/2024 |
Dyddiad cyn sgrinio: | I’w gyhoeddi |
Dyddiad Cyfweliad: | I’w gyhoeddi |
Sut i ymgeisio: | Anfonwch CV i: Workstart@denbighshire.gov.uk |
Mae’r cyfle cyffrous hwn ar gael am leoliad gyda Chyngor Sir Ddinbych yn y maes Gofal Ychwanegol.
Mae’n gyfle i’r ymgeisydd cywir i weithio o fewn ein tîm gofal, i ddarparu gofal a chymorth i’n dinasyddion, i ddysgu sgiliau newydd ac i gael profiad o weithio mewn lleoliad Gofal Ychwanegol yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth fel rhan o dîm gofal ymroddedig i sicrhau bod anghenion preswylwyr yn cael eu diwallu i’r safon uchaf posib a’u bod yn cael profiad cadarnhaol o Gofal Ychwanegol.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Arsylwi a chefnogi gofalwyr gan gynnig cymorth yn unol â chynllun gofal unigol pob preswylydd.
Defnyddio dull sy’n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ wrth weithio – sy’n golygu cydnabod bod pawb yn wahanol, ac y dylid rhoi’r unigolyn wrth wraidd eu cynllun gofal a chymorth.
Gweithio o dan oruchwyliaeth, ochr yn ochr â gofalwyr i annog dinasyddion i barhau i fod mor annibynnol â phosib.
Arsylwi a dilyn gofalwyr yn gweithio gyda’r preswylwyr hynny nad ydynt yn gallu ymdopi â rhai o’r tasgau eu hunain (e.e. cymorth i ymolchi, cael bath, rheoli ymataliaeth) – rhaid i’r tasgau hyn gael eu gwneud mewn modd sensitif gan ddangos parch i’r preswylydd.
Arsylwi gofynion preswylwyr o ran deiet, maeth ac iechyd.
Cyfathrebu gyda phreswylwyr er mwyn sicrhau eu lles o dan oruchwyliaeth y staff gofal.
Cynorthwyo gofalwyr i greu amgylchedd cefnogol a chartrefol lle mae rheolaeth bersonol ac annibyniaeth yn cael ei hyrwyddo i’r eithaf.
Cydymffurfio â Pholisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor Sir a’r Canllawiau Arferion Gorau a chadw at safonau iechyd a diogelwch personol ac yn y gweithlu.
Gweithredu yn onest a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
Ymgymryd â hyfforddiant pan fo angen a chyfrannu at gyfarfodydd preswylwyr a staff.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Diddordeb mewn gweithio fel gofalwr.
Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a mynychu rhaglenni hyfforddiant hanfodol perthnasol.
Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel
Y gallu i feithrin perthnasau gwaith positif gyda phreswylwyr a chydweithwyr.
Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd ac i weithio mewn modd proffesiynol.
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.