Mynd i'r cynnwys

Cymorthydd gweinyddol / Ymgynghorydd Gwasanaeth

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: Automark
Teitl Lleoliad:Cymorthydd gweinyddol / Ymgynghorydd Gwasanaeth  
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:12 WYTHNOS
Oriau Gwaith:25
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:05/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gadarnhau
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Mae Automark yn ‘Siop Un Alwad’ ar gyfer anghenion moduro o bob math.  Fel Cymhorthydd Gweinyddol Ymgynghorydd Gwasanaeth byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth roi cefnogaeth weinyddol i’r tîm ymgynghorydd gwasanaeth o fewn ein gwasanaeth moduro. Mae’r swydd hon angen cyfuniad o sgiliau trefnu a gallu o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd yr unigolyn yn y swydd hon yn gweithredu fel cyswllt rhwng cwsmeriaid a thechnegwyr gwasanaeth, gan sicrhau cyfathrebu esmwyth ac ymdrin ag apwyntiadau ac ymholiadau gwasanaeth yn effeithlon.
 
 
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rhyngweithio â Chwsmeriaid:
 
Cyfarch cwsmeriaid yn gynnes pan fyddant yn cyrraedd a’u cynorthwyo i drefnu apwyntiadau gwasanaeth.
Gweithredu fel y prif gyswllt i gwsmeriaid, ymdrin ag ymholiadau, a darparu diweddariadau ar gynnydd gwasanaeth.
Hysbysu cwsmeriaid ynghylch argymhellion gwasanaeth a rhoi gwybodaeth am brisiau iddynt mewn modd clir a phroffesiynol.
Ymdrin â chwynion neu bryderon gan gwsmeriaid gydag empathi a cheisio datrys materion yn sydyn ac yn foddhaol.
 
Trefnu a Chydlynu Apwyntiadau:
 
Trefnu apwyntiadau gwasanaeth yn seiliedig ar ddewis y cwsmer a phan fo gwasanaeth ar gael.
Cydlynu gyda thechnegwyr gwasanaeth i sicrhau bod tasgau gwasanaeth yn cael eu cwblhau ar amser.
Rheoli calendr yr ymgynghorydd gwasanaeth, gan sicrhau bod apwyntiadau a chyfarfodydd yn cael eu trefnu’n effeithlon.
 
Cymorth Gweinyddol:
 
Cynnal cofnodion cywir o apwyntiadau gwasanaeth, gwybodaeth cwsmeriaid, a hanes gwasanaeth cerbydau.
Cynorthwyo gyda thasgau rheoli rhestrau, gan gynnwys archebu a chadw rhannau a chyflenwadau moduro.
 
Cyfathrebu a Chamau Dilynol
Cyfathrebu gyda chwsmeriaid dros y ffôn, e-bost, neu wyneb yn wyneb i roi diweddariad ar gynnydd y gwasanaeth ac ymdrin ag unrhyw argymhellion gwasanaeth ychwanegol.
Cysylltu â chwsmeriaid ar ôl apwyntiadau gwasanaeth i sicrhau boddhad ac ymdrin ag unrhyw anghenion neu bryderon pellach.
Cydweithio â’r tîm i symleiddio cyfathrebu a gwella profiadau gwasanaeth cwsmer.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Addysg ysgol uwchradd; addysg ychwanegol neu dystysgrif mewn technoleg moduro neu weinyddiaeth yn fanteisiol.
Profiad o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid
Sgiliau cyfathrebu cryf, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn gallu rhyngweithio’n effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr.
Sgiliau trefnu ardderchog a sylw i fanylder, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau yr un pryd.
Hyfedredd mewn rhaglenni cyfrifiadurol, gan gynnwys MS Office.
Gallu gweithio mewn amgylchedd prysur ac aros yn bwyllog o dan bwysau.
Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog a datrys materion cwsmeriaid mewn modd amserol a phroffesiynol.
Amodau Gwaith Arbennig
Hyfforddiant pan fo angen