Mynd i'r cynnwys

Mecanig dan Hyfforddiant

Swydd-ddisgrifiad Cynllun Dechrau Gwaith
Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith
a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio.
 
Cyflogwr: Redstone Services
Teitl Lleoliad:Mecanig dan Hyfforddiant  
Nifer o swyddi gwag y lleoliad:1
Geirdaon Gofynnol 
Hyd y Lleoliad:12 WYTHNOS
Oriau Gwaith:24
Cyflog:NMW
Dyddiad Cau:19/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:I’w gadarnhau
Dyddiad Cyfweliad:I’w gadarnhau
Sut i ymgeisio:Please send your CV to workstart@denbighshire.gov.uk  
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith



Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Rydym ni’n chwilio am Fecanig dan Hyfforddiant i ymuno â’n tîm. Mae’r swydd yma i ddechreuwyr yn ddelfrydol i unigolion sydd ag angerdd am gynnal a chadw a thrwsio cerbydau, gan gynnig cyfle iddynt ddysgu a thyfu mewn amgylchedd gweithdy deinamig.  Fel Mecanig dan Hyfforddiant, fe fyddwch chi’n cynorthwyo mecanyddion profiadol i wneud tasgau gwasanaethu a thrwsio sylfaenol, megis glanhau, trwsio mân grafiadau a newid teiars.  Yn y swydd hon, fe geir hyfforddiant ymarferol a phrofiad gwerthfawr yn y diwydiant cerbydau modur.
 
Cyfrifoldebau:
 
Cynorthwyo Mecanyddion profiadol i wneud tasgau gwasanaethu a thrwsio sylfaenol ar gerbydau
Dysgu a dilyn amserlenni cynnal a chadw a gweithdrefnau ar gyfer cerbydau o wneuthuriad a modelau gwahanol
Glanhau a thrwsio mân grafiadau y tu mewn a thu allan i gerbydau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno yn y cyflwr gorau i gwsmeriaid
Cynorthwyo i newid teiars, yn cynnwys gosod, cydbwyso ac alinio olwynion
Cynnal glendid a threfn y gweithdy a theclynnau
Dilyn protocolau a gweithdrefnau diogelwch er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel
Dysgu i ddiagnosio problemau mecanyddol a chynorthwyo i atal problemau a’u trwsio o dan oruchwyliaeth
Cynorthwyo gyda thasgau a phrosiectau eraill a bennwyd gan Uwch Fecanyddion neu’r Rheolwyr
 
 
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
Angerdd am gynnal a chadw a thrwsio cerbydau modur
Parodrwydd i ddysgu a chymryd cyfarwyddyd gan fecanyddion profiadol
Gwybodaeth a gallu mecanyddol sylfaenol
Rhoi sylw i fanylion ac ymrwymiad i waith o safon
Sgiliau cyfathrebu ardderchog a gallu gweithio’n dda mewn tîm
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau’n gywir
Stamina corfforol a gallu gwneud gwaith llaw mewn amgylchedd gweithdy
Mae angen trwydded yrru ddilys
Os ydych chi’n frwdfrydig dros ddechrau gyrfa ym maes trwsio a chynnal a chadw cerbydau modur, a’ch bod chi’n chwilio am gyfle dysgu ymarferol, rydym ni’n eich annog chi i ymgeisio am y swydd hon.  Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i gael profiad a hyfforddiant gwerthfawr mewn amgylchedd gweithio cefnogol a chydweithredol.
Gweithiwr da, dibynadwy, sydd â’r agwedd gywir a pharodrwydd i ddysgu.
Cymwyseddau TG yn ddymunol
 
Amodau Gwaith Arbennig
Hyfforddiant pan fo angen
Gwiriadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol

Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd