Mynd i'r cynnwys

CYNLLUN DECHRAU GWAITH – FINER FORAGE – Derbynnydd / Cymhorthydd-Gweinyddol

Dim ond preswylwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych sy’n ddi-waith a ddim mewn addysg llawn amser a gaiff ymgeisio

Swydd-ddisgrifiad

Cyflogwr: Finer Forage
Teitl Lleoliad:Derbynnydd / Cymhorthydd – Gweinyddol  
Hyd y Lleoliad:12 wythnos
Oriau Gwaith:20 awr i’w gyhoeddi
Cyflog:Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau:15/05/2024
Dyddiad cyn sgrinio:16/05/2024  –  PRYNHAWN DA
Dyddiad Cyfweliad:I’w gyhoeddi
Sut i ymgeisio:Anfonwch CV a  Workstart@denbighshire.gov.uk                     07442 939087
Crynodeb o’r Cyfle Lleoliad Cynllun Dechrau Gwaith
Mae Finer Forage yn fusnes bach sy’n gwerthu bwyd ceffylau yng Ngogledd Cymru brydferth.  Rydym yn berchen ar geffylau a merlod ac wrth ein boddau â nhw, a chawsom ein hysbrydoli gan yr angen i ddod o hyd i fwydydd a oedd yn iawn i’n hanifeiliaid ni.  Mewn marchnad sydd yn llawn opsiynau, nid oeddem yn gallu dod o hyd i un oedd yn iawn i ni, a gwelsom fod nifer o berchnogion eraill yn teimlo’r un fath, felly penderfynasom wneud rhywbeth am y peth.   Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â diddordeb mewn darparu cefnogaeth weinyddol a chyflawni dyletswyddau cyffredinol mewn swyddfa.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
Darparu cefnogaeth weinyddol i’r sefydliad h.y. teipio dogfennau, mewnbynnu gwybodaeth, Excel, cyflwyniadau PowerPoint.Creu a chynnal systemau ffeilio effeithiol.Archebu a chynnal cyflenwadau swyddfa a storfa, yn ogystal â chyflwynoarchebion prynu.Rhoi gwybodaeth i fudd-deiliaid.Cynorthwyo i drefnu digwyddiadau cymdeithasol, hyfforddiant neu ddigwyddiadau codi arian. Trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion.Rheoli galwadau a negeseuon y switsfwrdd.Adolygu a diweddaru rhestrau cyswllt.Rheoli post sydd yn dod i mewn ac yn mynd allan.Monitro mewnflwch cyffredinol ac ymateb neu ail-gyfeirio ymholiadau fel bo’n briodol.Cofnodi gwiriadau iechyd a diogelwch.Cydlynu cyfarfodydd a helpu i ddarparu gofynion arbennig ar gyfer cyfarfodydd.Cyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol.Monitro’r swyddfa a’r dderbynfa, croesawu cwsmeriaid ac ymwelwyr.Gwerthiannau cyffredinol.Archebu ac ail-lenwi cyflenwadau amrywiol ar gyfer y swyddfa, y storfa ac o’ch cwmpas.Creu, rheoli a chynnal presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn unol ag ethos a neges y brand.Cychwyn trafodaethau, ymchwilio a chysylltu â chyflenwyr a gwasanaethau newydd, yn unol â gofynion ac anghenion y busnes.Creu a chynnal cronfa ddata cwsmeriaid a chleientiaid yn unol â deddfwriaeth diogelu data.Cefnogi’r cyfarwyddwyr mewn tasgau amrywiol i fodloni anghenion y busnes, yn ôl yr angen.Cynorthwyo i gynnal swyddfa, derbynfa a man gweithio glân a thaclus.Cynorthwyo i gynnal y busnes yn gyffredinol.Mae’r man arferol ac oriau gwaith fel yr uchod, fodd bynnag efallai o dro i dro y gofynnir i chi weithio ar safle arall a/neu oriau gwahanol. Rhoddir hysbysiad rhesymol mewn perthynas â hyn.
Gwybodaeth, Sgiliau, Profiad a Rhinweddau Personol
 Profiad perthnasol mewn swyddfa. Profiad mewn rôl derbynnydd. Sgiliau TG medrus.Sgiliau trefnu cryf.Ymwybodol o ddeddfwriaeth a diogelu data.Diddordeb mewn ceffylau a/neu iechyd a maeth anifeiliaid anwes.Cymwysterau dymunol: TGAU mewn Mathemateg a SaesnegNVQ Lefel 2 mewn Busnes a / neu Weinyddu  Yn gyfarwydd â Systemau Microsoft, Llwyfannau’r Cyfryngau Cymdeithasol, Canva neu feddalwedd tebyg