Mynd i'r cynnwys

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle

Ebril 22 – 9.30am – 4.30pm

Canolfan Ieuenctid y Rhyl

Disgrifiad: Mae’r cwrs undydd hwn wedi ei ddylunio i bobl sydd eisiau cael hyfforddiant a chymhwyster mewn cymorth cyntaf brys. Mae’n arbennig o addas ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf a enwebwyd mewn amgylchedd gwaith llai, â risg isel, megis swyddfeydd bach, lleoliadau lletygarwch a manwerthu i enwi rhai.

Beth i’w Ddisgwyl: Byddwn yn eich addysgu ynglŷn â’r gyfraith sy’n berthnasol i gymorth cyntaf, gan eich gwneud yn gyfarwydd â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf), cyn symud ymlaen i’ch addysgu sut i reoli digwyddiad a thrin gwaedu, llosgiadau, tagu a sioc. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddelio gydag unigolyn anymwybodol, gan gynnwys sut i’w rhoi yn yr ystum adfer a sut i roi CPR. Mae’r cwrs yn ymdrin â phrotocolau cymorth cyntaf i oedolion yn unig.

Pwy yw Sir Ddinbych yn Gweithio? Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim.